Pam yr wyf yn ceisio gwella fy hun?

Mae delwedd ein cyrff yn gallu bod yn bwnc llosg? Rydym yn cael ein hamgylchynu'n gyson gan ddelweddau a syniadau sydd yn ei gwneud hi mor hawdd i ddatblygu delwedd negyddol o’n cyrff. Mae cyfryngau cymdeithasol wedi gwneud i bobl fod yn genfigennus o wrthrychau, delweddau a ffyrdd o fyw sydd ddim hyd yn oed yn bodoli. Mi ddyliwn i wybod - 'r wyf yn un o’r rhai sydd yn dilyn y bobl hardd yma ar Instagram. Byddaf yn edrych arnaf fy hun ac yn meddwl os gall Davina McColl edrych mor wych yn 50 mlwydd oed, pam na allai i  edrych felly yn 37 mlwydd oed? Y peth ydy – fi yw fi. Felly yn hytrach na digalonni a cheisio bod yn rhywun arall, rwyf wedi penderfynu ceisio  bod  y fersiwn gorau ohonof i a chanolbwyntio ar gyrraedd fy mhotensial personol i. Felly rwyf am roi'r holl ddelweddau o berffeithrwydd o’r neilltu . Rwyf am weld sut y bydd edrych ar ôl fy iechyd a gwella fy ffitrwydd yn gwneud i mi deimlo’n well. Plis wnewch i ddarllen fy mlog a’n nilyn i ar fy nhaith! 

Nid un digwyddiad ynysig  sydd yn ein hysbrydoli  i weithredu ac i  wneud newidiadau. Gallwch ei alw yn beth bynnag cliché y dymunwch – wedi cael llond bol, digon yw digon, - ond pan fydd yn wirioneddol yn digwydd, cewch y teimlad y bydd y tro yma'n wahanol.

I mi, fy ngwaith sydd wedi fy’m  hysbrydioli i weithredu. Rwyf yn Brif Swyddog i Wasanaeth Cynnal Gofalwyr, gwasanaeth sydd yn cefnogi gofalwyr di-dâl yng Ngogledd Orllewin Cymru.
Mae gofalwyr di-dal yn anhygoel! Pob dydd rwyf yn rhyfeddu at pa  mor annhunanol ydyw gofalwyr di-dâl. Maent mor brysur yn gwneud i eraill, yn aml maent yn anghofio amdanynt eu hunain. Fel sefydliad , rydym bob amser yn atgoffa ein gofalwyr i edrych ar ôl eu hunain. Mae lles yn air mor bwysig y dyddiau yma. 

A dyma fi yn bennaeth ar elusen sydd yn annog gofalwyr i edrych ar ol eu lles ond  rwyf i fy hun wedi bod yn esgeuluso fy lles! Mae’n ddipyn o jôc yn y swyddfa- pob Dydd Llun byddaf yn cychwyn rhyw ddeiet newydd. Ond mae’n fwy o destun sbort ar Ddydd Mawrth pan fyddaf yn llwgu ac yn bwyta cacen fel does dim yfory!! 

Felly cefais y syniad gwych yma, un peth yr wyf yn llwyddo i roi 100% iddo yw fy ngwaith. Felly os cysylltaf fy ngwaith gyda’m  lles,  efallai bydd fy ymrwymiad hefyd yn 100%. Be dwi ddim eisiau wneud yw ei droi yn obsesiwn i fod yn berffaith:  gallwch ddilyn yr enwogion (selebs)i wneud hynny!!

Yma ar fy mlog i, cewch onestrwydd a llawer o frwydrau. Rwyf yn gweithio llawn amser, ac mae gen Ii fab yn ei arddegau sydd yn disgwyl i mi fod yn ‘dacsi’ ac un arall 8 oed sydd yn chwarae pêl- droed (yn aml) a fi yw ei brif gefnogwr. Mae bywyd yn gallu bod yn hectig ac ar brydiau yn straen! 
Am y 6 mis nesaf byddaf yn cynnal f'arbrawf bach i weld os bydd canolbwyntio ar fy lles a gwneud fy hun deimlo’n dda yn arwain at effaith gadarnhaol ar fy mywyd cyfan.

Rwyf yn ceisio bod y fersiwn gorau o'm hun, ond nid wyf am ildio i ddisgwyliadau afrealistig o sut y dyliwn i edrych yn ôl y ddelfryd perffaith. 

Felly am y 6 mis nesaf rwyf am wella fy ffitrwydd! Rwyf eisoes wedi ymuno a’r gampfa leol ac rwyf yn cychwyn ‘boot camp’ am 12 wythnos. (3 dosbarth yr wythnos o hyfforddiant dwysedd uchel a chodi pwysau)

Rwyf am gychwyn edrych ar yr hyn rwyf yn ei  fwyta! Rwyf wedi ymrwymo i gynllun  maeth bersonol gyda Julie sydd yn hyfforddwraig ffitrwydd a maeth ac sydd yn cynnal dosbarthiadau  ffitrwydd lleol. Mae hi wedi cymryd f' ystadegau a thynnu lluniau a bydd yn adolygu'r ystadegau  a’r lluniau pob 4 wythnos.
Rwyf yn rhoi gorau i yfed diodydd alcoholig – wel efallai cyfyngu i achlysuron arbennig!! Nid wyf yn yfwr mawr ond mae G&T ar nos Wener ar ôl wythnos brysur yn braf. Dim mwy o G&T’s  ar nos Wener!

Hefyd pob mis rwyf am herio fy hun . Fy her cyntaf oedd cerdded i fyny’r Wyddfa. Darllenwch y blog nesaf!) Dyma f' ymrwymiad personol i ofalwyr di-dâl o Ogledd Cymru a byddwn wrth fy modd petaech yn cefnogi fy her.  Byddai’n dda pe baech yn ymuno â mi a chasglu arian ar gyfer cronfa  prosiect lles i ofalwyr di-dâl. Buaswn wrth fy modd casglu arian i gefnogi gofalwyr i edrych ar ôl eu lles eu hunain ac i geisio trechu rhywfaint o’r straen sydd yn eu bywydau. Os ydy o yn ffitrwydd, cwnsela, therapi ymddygiad gwybyddol, cyllid, ymwybyddiaeth feddlygar  neu beth bynnag fo gofalwyr angen i wella eu lles personol. Hoffwn i Wasanaeth Cynnal Gofalwyr eu helpu. 

Dymunwch lwc dda i mi a chofiwch, mae croeso i chi ymuno â mi yn f' ymdrechion.

                     Cariad mawr,

                               Llinos Mair Roberts x



Comments

Post a Comment

Popular Posts